Y STORI
Wedi’i sefydlu yn 2014 yn seiliedig ar gariad tuag at bizza Neapolitan, mae Ffwrnes yn cyfuno dulliau traddodiadol Eidalaidd gyda’r cynnyrch gorau yng Nghymru. Dechrau’r daith oedd darganfod ein fan fach 3 olwyn, Smokey Pete. Gyda thân yn ei bola a’r ddawn i goginio pizza yn berffaith, mae Smokey Pete wedi tywys bois Ffwrnes ar hyd a lled y wlad yn creu pizzas blasus. Gallwch ein gweld ar y rhaglen ‘Pizza Boys’ BBC a ‘Bois y Pizza’ S4C yn teithio ar draws Ewrop er mwyn cystadlu yn Pencampwriaeth Pizza’r Byd.