EIN PIZZAS
Toes Neapolitan traddodiadol, wedi’i wneud â llaw bob tro a’i orchuddio gyda thomatos San Marzano - hanfodol ar gyfer pizzas Neapolitan go iawn. Rydym yn cael ein cynhwysion gan amrywiaeth o gynhyrchwyr gwych o bob cwr o Gymru, a pham lai o gofio bod gennym lu o adnoddau lleol a chynhyrchwyr annibynnol. Yn olaf, maen nhw’n cael eu coginio’n berffaith yng nghrombil ein ffwrneisi bach.